Cyhoeddwyd y newyddyddion wythnos hon fod Jane Davidson, Gweinidog yr Amglychedd am godi tal ar fagiau plastic siopa untro o 2011 ymlaen. Er bod cynllun gwirdoddol wedi lleihai y nifer o fagiau a roddwyd allan gan y cwmnioedd oedd yn cymryd rhan o bron i 50%, nid oedd y gweinidog o’r farn bod modd lleihau yn sylweddol eto heb orfodaeth.
Nid ym hwn yn “dreth” fel mae rhai wedi honni. Ni fydd y llywodraeth yn cael ceiniog o’r tal – bydd y siopau yn casglu’r arian yn yn cael eu annog i’w defnyddio tuag at gynlluniau o les i’r amglychedd.
Mae rhai wedi ymosod ar y cynllun gan ddweud na fydd lleihai defnydd o fagiau plastic untro yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’r amgylchedd. Dwi ddim yn cytuno. Dwi wedi ceisio a defnyddio bagiau cotwm am y 4 mlynedd diwethaf, a dwi wedi sylwi bod fy agwedd wedi newid o ganlyniad. Mae mynd a’r bag i’r Co-op wedi dod yn beth naturiol, a dw bin sbwriel (a’r bin ailgylchu) ddim yn llawn bagiau pastig bellach. Dwi ddim yn gwybod faint o blastic sydd wedi arbed o ganlyniad, ond mae 4 bag pob wythnos o’r Co-op a 3 fag pob wythnos o’r dref yn olygu ‘mod i wedi safio 1,400 o fagiau – cyfraniad bach i leihai sbwriel a’r defnydd o olew ond un wedi gwneud heb unrhyw arberthiad ar fy rhan i.
Efallai na fydd codi tal 15c ar fagiau plastic ddim yn mynd i drawsnewid yr amglychedd dros nos, ond mae gwneud i ni feddwl am y ffordd rydym yn defnyddio deunydd untro yn gam mawr ymlaen tuag at newid ein meddwl tuag at wastraff. Unwaith eto, mae Cymru yn arwain y ffordd.
Mae grŵp Transition Llambed yn symud yn ei flaen. Roeddwn i mewn cyfarfod nos Lun ac roedd llawer wedi digwydd. I’r rhai sydd ddim yn gyfarwydd â’r grŵp mae’n treio codi ymwybyddiaeth o’r ffordd mae ein cymdeithas ni yn or-ddibynnol ar olew ac yn yr amgylchiadau presennol mae’r neges ‘na yn berthnasol iawn. Mae’r mudiad wedi cael cefnogaeth Cyngor y Dref a Menter Llambed.
Mae nifer o ddatblygiadau diddorol ar y gorwel gan gynnwys datblygu arian lleol er mwyn cadw mwy o fasnach o fwn yr ardal. Ond y prif ddatblygiad nos Lun oedd cynllunio cwdyn cotwm arbennig i Lambed. Mae Mel (sy’n aelod gweithgar iawn) wedi bod o gwmpas yn gwerthu’r syniad i siopau yn y dref a delio a chynhyrchwr yn y Trallwng. Y bwriad yw i siopau lleol werthu’r cwdyn yma er mwyn lleihâi defnydd o gwdinau plastic (sy’n arbed olew) ac i hyrwyddo Llambed fel canolfan siopa ar yr un pryd. Mae angen archebu dros 1,000 o fagiau er mwyn cael pris rhesymol felly nid yw’n rhywbeth gall rhai o fusnesau’r dref wneud yn annibynnol.
Fydd hi ddim yn hawdd cael pawb allan o’r arfer o ddefnyddio bagiau plastig; maen nhw’n handi iawn wrth fynd i’r siop. Ond rwy wedi ffindio ‘mod i’n defnyddio llawer llai o fagiau plastig ers cael 2 bag mawr o Farchnad y Ffermwyr. Buasai hi’n braf i ni fel tref gael gwared â bagiau plastig yn llwyr ond nid yw’r fath ‘na o rym gyda ni – bydd yn rhaid i rywbeth ddigwydd yn y Cynulliad ond wrth wneud camau bach gallwn wneud gwahaniaeth.
Rhaid i Mel gael cydnabyddiaeth am ei gwaith caled yma. Gobeithio bydd llwyddiant Cwdyn Llambed yn gosod sylfaen i brosiectau mwy fel datblygu arian lleol ac yn arwain at droi Llambed yn esiampl o ymarfer da i drefi eraill sydd am ddatblygu’n gynaliadwy.