Y diwrnod cyntaf yn dirwyn i ben.  Llwyddiant ysgubol bu hi – mae’r crwtyn dal yn fyw, a minnau wedi cadw ‘mhwyll.
Amserlen heddi’:  Arwyddo i fabanod yn Radyr yn y bore, Ti a Fi ym Maesycwmer yn y prynhawn.
Mae Arwyddo bach yn lletchwith oherwydd ei fod yn Saesneg.  Ry’n ni’n dysgu arwyddion trwy eu defnyddio wrth ganu caneuon ac ati, ac yna yn eu cadarnhau trwy ddefnyddio nhw wrth siarad gyda’r babis.  Nawr, siwt mae dysgu’r gair ‘Hwyaden’ trwy ganu can ‘four little ducks went swimming one day…”.  Mae’n siŵr dof i i ben a hi!
Un o’r pethau gorau ynglŷn ag arwyddo yw bod plant, ymhell cyn iddyn nhw allu siarad, yn gallu arwyddo anghenion syml (llaeth, bwyd, diod ac ati) a chyfathrebu (moyn mynd gytre, wy’n oer, mae’n nannedd i’n brifo…).  Roedd fy nai yn trafod adar yn yr ardd ac anifeiliaid y fferm yn 12 mis!
I ychwanegu at yr hwyl heddi mae’r boi ‘di dala rhyw anhwylder oddi ar ei gefnder (yr un un a’r nai a glodforais cymaint, gwta paragraff yn ôl…).  Penderfynodd e gyfogi dros fy siwt nifer o weithiau mewn priodas ddydd Sadwrn, ac wedi bod yn llai brwdfrydig na’r arfer ers hynny wrth fwyta ac yfed.  Heddi, buodd e’n sâl yn y dosbarth arwyddo, a minnau’n dad diymadferth yn dibynnu ar ‘babywipes’ rhywun arall (wedi anghofio mynd a’r bag newid).  Yn ddigon ffodus, dim ond ychydig o hen laeth daeth lan, ar fat plastig tua diwedd y wers.  Dim fel y llif di-ddiwedd a ddaeth heno wrth noswylio.  Mae Pastai Bwthyn (?Cottage Pie) fy ngwraig yn rhy dda, a Ioan yn ffaelu ag ymwrthod rhag ei fwyta fe i gyd.  Ynghyd a’r iogwrt a’r bisgedi.  A mwged da o laeth.
Yn ddigon lwcus, fy ngwraig oedd yn ei roi yn ei wely, a minnau mewn ymarfer côr!
Wy wedi sylweddoli un peth eitha pwysig.  Mae ‘ngwraig wedi sgwennu amserlen i fi o’i holl weithgareddau (Ti a fi, nofio, arwyddo ac ati), ac ryn ni wedi penderfynu ar ryw fath o fwydlen o flaen llaw, er mwyn i fi orfod meddwl (a dysgu) am un peth ar y tro.  Ond mae un peth ar goll:  Beth ydw i fod gneud pan ‘yn ni’n treulio amser ar ein pennau’n hunain?  Hy, ‘wy wastad wedi treulio lot o amser yn darllen a ware a gneud pethau felly gyda Ioan, ond hyd at nawr, dim ond am awr, neu am brynhawn unigol ar y tro.  Oes ‘na bethau eraill i’w gwneud?  Mae’n datblygu mor glou, a dwi ddim moyn iddo fe golli mas ar ddim byd…