Wrth i arweinwyr yr Unol Dalaethiau,  yr Undeb Ewropeaid, Rwsia, a’r Cenhedloedd Unedig – y ‘cwartet’ – baratoi am gynhadledd heddwch fawr yn Annapolis, yr UDA, mae swyddogion lluoedd arfog Israel yn paratoi am don newydd o rhyfela. Mae cryn son wedi bod am ddisgwyl intifada newydd os eiff pethau’n wael i’r Palestiniaid yn Annapolis yn hwyrach y mis yma. Mae’r sefyllfa ddyngarol yn waeth nawr hyd yn oed nag oedd hi nol yn 2000, adeg yr ail intifada, yn enwedig ar lain Gaza. Yno, mae cenhedlaeth newydd o Balestiniaid ifanc wedi eu meithryn yng ngorthrwm llwm rheolaeth Israel dros eu tir, dros 70% o’u cymdogion yn ddi-waith, a’r economi o dan warchae gydag Israel wedi cau’r ffiniau ‘er mwyn taro’s terfysgwyr yn eu man gwan’ yn ol Tel Aviv. Mae Confensiwn Genefa yn cynnig bod cosbi poblogaeth gyfan am droseddu lleiafrif ohonynt yn anghyfreithlon…
Ond y tro yma, digon tebyg taw nid y Palestiniaid yn unig fydd yn gweld methiant y trafodaethau heddwch fel rheswm i fflamio’r ardal unwaith eto. Yn ol Ehud Barak, gweinidog amddiffyn Israel, mae cyrch milwrol arall ar Lain Gaza ‘ar ddigwydd’. Wythnos i ddydd Gwener ddiwethaf, soniodd Sianel 10 teledu Israel fod ‘y byd yn cydymdeimlo gydag Israel ac felly’n cefnogi ei gweithgareddau’. Mae’r gweithgareddau yma’n cynnwys ymosodiadau cynyddol yng Ngaza gan awyrennau Israel. Y targedau diweddaraf yw swyddfeydd heddlu Palesteina sy’n cael eu bomio gan awyrennau F16, hofrenyddion ‘Apache’, a’r awyrennau di-beilot ‘Predator’. Y rheswm am dargedu’r heddlu? I ‘gosbi’r Palestiniaid am danio at Israel’. Confensiwn Genefa…?
Yn ol y papur newydd Israelaidd Haaretz, y broblem fwyaf gyda’r ‘cosbi’ yma yw’r ffaith nad y’r dacteg yn gweithio. Parhau mae’r rocedi sy’n glanio yn Israel. Yn ol y papur, y gred yw yn Nhel Aviv taw’r unig ffordd i atal y rocedi yw drwy gyrch arall ar Lain Gaza i ddatrys y broblem unwaith ac am byth. Felly, yn hytrach na chosbi poblogaeth, mae Israel (unwaith yn rhagor) ar fin gyrru’r fyddin nol mewn i Lain Gaza, meddiannu’r tir, a rhestio neu ladd y ‘terfysgwyr sy’n tanio’r rocedi.
Felly beth yw’r rocedi dychrynllyd yma sy’n achosi anrhefn i un o bwerau milwrol mwyaf grymus y byd? Taflegrau ‘Scyd’? ICBMs niwcliar? Taflegrau ‘Hellfire’ neu bomiau ‘Paveway’ megis rhai llu awyr Israel? Na: dyma rocedi sy’n cael eu cynhyrchu mewn siediau a gweithdau yn nhiroedd y Palestiniaid gan ddefnyddio cymysgedd o ddefnyddiau cyffredin a pheth ffrwydron. Mae miloedd wedi cael ei lansio i fewn i Israel dros y saith mlynedd diwethaf gan achosi gryn rhwystrydigaeth ymysg y boblogaeth. A’r colledion? Yn ol y Guardian, mae rhai degau wedi eu hanafu – yn cynnwys tua 50 o filwyr Israel ar Fedi’r 11fed eleni – a 12 wedi eu lladd. 12 mewn cyfanswm o 1,027 o Israeliaid sydd wedi eu lladd yn yr un cyfnod, yn cynnwys dros 300 o’r lluoedd arfog. A’r Palestiniad sy’n farw fel rhan o’r ‘cosbi’ dros yr un cyfnod? 4,325 (ffigurau ar gael yma: http://www.btselem.org/english/Statistics/Casualties.asp).
Dim ond dechrau’r hanes yw nifer y cyrff. Mae’r cosbi’n llawer mwy eang na’r bomio a’r cyrchoedd. ‘Dw ddim am or-wneud pethau yma, ond cymerwch gip ar adroddiad y Cenhedloedd Unedig ar y sefyllfa ym Mhalesteina ar gyfer mis Hydref 2007:
http://domino.un.org/UNISPAL.NSF/22f431edb91c6f548525678a0051be1d/bb5799207eddd8f28525738b0058bdd3!OpenDocument
Salam.
Diddorol iawn yw darllen adroddiadau diweddar am ymdrechion y blaid wleidyddol arfog Hisbala o Libanus i ricriwtio aelodau o’r cymunedau Swni, Driws, a Christnogol yn Libanus. Yn hanesyddol, grwp sy’n dibynu ar gefnogaeth cymuned Shia de Libaus yw Hisbala. Fe ddaethant i’r adwy nol yn y 1980au cynar, adeg rhyfel cartref Libanus, fel grwp arfog i amddiffyn y gymuned Shia. Maent wrth gwrs wedi bod yn y penawdau sawl tro ers hynny, gydag Israel yn lawnsio cyrchoeed eang yn erbyn Libanus yn haf 2006 mewn ymgais i geisio dinistiro’r grwp.
Yn ol y Cenhedloedd Unedig, cafodd tua 500 o ymalddwyr y grwp eu llad yn y gwrthdaro, ond bu’r gwrthdaro yn fuddugoliaeth seicolegol fawr ‘r mudiad gan i Israel atal yr ymosodiadau wedi mis o frwydro heb ganlyniadau amlwg. Lladdwyd 120 o filwyr Israel yn y gwrthdaro, yn ogystal a thua 1,200 of sifiliaid yn Libanus a 43 yn Israel. Yn dilyn methiant byddin Israel (y cryfa ar bapur a’r mwya modern yn yr ardal diolch yn rhannol i gymorth milwrol eang gan y Gorllewin) i drech Hisbala, mwynheodd y mudiad cryn gefnogaeth boblogaidd yn Libanus ac ymysg poblogaethau Arabaidd gwledydd eraill yr ardal. Fel rhan o’r twf yma, ymunodd rhai cannoedd o lanciau ifanc Shiaidd a’r mudiad gan negyddu’r colledion ddioddefwyd yn y gwrthdaro, a chan gynyddu y nifer o ymladdwyr ar lyfrau’s mudiad i dua 10,000.
Mae’r adroddiadau diweddaraf yn honi bod arweinayr Hisbala wedi bod yn cwrdd a sawl sieich (arweinydd crefyddol a chymdeithasol) ymysg cymunedau Swni Libanus i geisio datblygu perthynas agosach gyda’r gymuned ehangach yn Libanus. Er taw un o’r rhesymau am hyn fyddai i gryfau’r mudiad cyn ymosodiad disgwyliedig nesaf Israel, mae’r mater yn un llawer mwy cymleth na hyn. Mae Hisbala hefyd am fanteisio ar ddiffyg fydd nifer o boblogaeth y wlad gyda’r llywodraeth bresenol, llywodraeth syn hynnod o agos at y Ty Gwyn ac arweinwyr gorllewinol eraill. Yn ogystal a hyn, ac fel rhan o’r fargen am gefnogaeth y siechs, mae’r mudiad yn hyfforddi cannoedd of lanciau Swni yn un o’r gwersylloedd ffoaduriaid Palesteinaidd er mwyn rhwystro twf al-Caida yn y wlad. Er gwaethaf rhai honiadau o Washington ac Israel, mae Hisbala yn gwbl wrthyn i syniadaeth y mudiad sy’n glwm ac Osama Bin Laden, ac yn barod i herio unrhyw ymgais gan yr eithafwr Swni i sefydlu troedle yn Libanus.
Am fwy o fanylion, dyma ddolen i erthygl yn y San Franciso Chronicle: http://www.sfgate.com/cgi-bin/article.cgi?f=/c/a/2007/11/01/MNOISNC32.DTL&hw=hugh+macleod&sn=001&sc=1000