Ces i ddiwrnod bant ddoe.  Aeth y crwtyn i weld ei hen fam-gu (Mamie Francaise) yn Ne Lloegr, a minnau’n cael diwrnod llawn hebddo.  8 awr i’n hunan, a chymaint o bethau i wneud, felly dyma beth a wnes i:
Do’n i ddim yn deall pan oedd ‘y ngwraig yn treulio diwrnod yn gwneud dim byd gyda’r crwtyn yn nhŷ ei mam.  Ro’n i’n derbyn ei bod hi’n flinedig, a’i fod yn braf gwneud dim am unwaith, ond tan ddoe, nag o’n i wedi deall beth yw diwrnod bant.
Yn gyntaf, mae rhyw hanner awr o fwydro a thindroi.  Beth wnaf i?  ‘Na’i esgus gwylio’r newyddion, wedyn gneud rhywbeth ar fy rhestr o dasgau am y diwrnod.
Wedyn mae rhyw awr o ‘gynllunio’.  Wy’n rhy flinedig i wneud dim yn syth, felly beth am benderfynu beth sydd i’w wneud.
Gwneud ambell i alwad ffon, bach o fwyd, falle bach yn fwy o fwyd.  Dwi ddim hyd yn oed yn gwybod faint o’r gloch yw hi oherwydd nag oes rhaid i fi wylio’r cloc heddi.
Torri’r lawnt (mae’n ddiwrnod braf wedi’r cyfan), wedyn disgwyl ar y rhestr o bethau i wneud a meddwl ‘O mae hen ddigon o amser, so’r crwtyn gyda fi heddi.  Gwely am awr fach (ar ol penwythnos hir a chaled) ac yn sydyn reit mae ‘ngwraig ar y trên ar ei ffordd gytre, a minnau wedi gwneud… ymm… dim o gwbl.
Well i fi ymhelaethu ar y penwythnos.  Parti pen-blwydd gyda 9 o blant ac 20 o oedolion.  Llond y lle o falŵns a bwyd, a phawb yn joio.  I fac-tracio fel ffilm doniol (ar fast fforward, siŵr o fod) nosweth Gwener a bore Sadwrn (a phrynhawn Sadwrn, a weud y gwir i chi), rhedeg o gwmpas y tŷ yn cymonnu (tacluso, i chi bobl o ffwr’), cario bocsys a phethach lan staer i’r stafell sbâr, ceisio diogelu’r tŷ ar gyfer plant sy’n gallu cerdded (Mae un rhan ohono’i yn disgwyl ‘mlaen at weld Ioan yn cerdded, ond mae rhan arall ohono’i yn gwybod na fydd eiliad o lonydd i fi wedyn.  Am hwyl!  Am hunllef!), a symud y llyfrau Sw-Docw o’r stafell ‘molchi – so ‘ngwraig am i bobl feddwl mod i’n gneud Sw-Docw yn y tŷ bach, ond mae pawb yn gwybod nawr ta beth!!!
Soi’n gweud bod y tŷ yn llanast cyn y penwythnos, ond ar ol diwrnod a hanner o gymonnu, ro’n ni dal wrthi’n cicio pethau o dan fyrddau a’u cuddio  mewn cypyrddau wrth i’r gwesteion gyrraedd.
Ware gemau dechau yn y parti, wedyn – pasio’r parsel, delwau cerddorol (sefyll fel delw pan fo’r gerddoriaeth yn peidio, er i ni newid y rheolau i fod yn ‘ddwylo ar eich pen’ oherwydd bo cymaint o blant ifanc), helfa drysor, a jeli a hufen ia i fyta.  Heblaw’r Pringlys, wedi’u gwneud gan Cat (fy ngwraig) neu’i mam oedd y bwyd i gyd, a diflanodd popeth, gan adael jest digon i fi gael bwyd gyda’r nos yn hytrach na pharatoi rhywbeth arall!  Am gynllun perffaith!
Ond dyna’r her nawr – cadw’r tŷ yr un mor daclus ag oedd e ddydd Sadwrn, tra’n ffindio’r holl bethau sy ar goll dan fyrddau, mewn cypyrddau ac ati.  Wats ddys sbes…