Diddorol iawn yw darllen adroddiadau diweddar am ymdrechion y blaid wleidyddol arfog Hisbala o Libanus i ricriwtio aelodau o’r cymunedau Swni, Driws, a Christnogol yn Libanus. Yn hanesyddol, grwp sy’n dibynu ar gefnogaeth cymuned Shia de Libaus yw Hisbala. Fe ddaethant i’r adwy nol yn y 1980au cynar, adeg rhyfel cartref Libanus, fel grwp arfog i amddiffyn y gymuned Shia. Maent wrth gwrs wedi bod yn y penawdau sawl tro ers hynny, gydag Israel yn lawnsio cyrchoeed eang yn erbyn Libanus yn haf 2006 mewn ymgais i geisio dinistiro’r grwp.
Yn ol y Cenhedloedd Unedig, cafodd tua 500 o ymalddwyr y grwp eu llad yn y gwrthdaro, ond bu’r gwrthdaro yn fuddugoliaeth seicolegol fawr ‘r mudiad gan i Israel atal yr ymosodiadau wedi mis o frwydro heb ganlyniadau amlwg. Lladdwyd 120 o filwyr Israel yn y gwrthdaro, yn ogystal a thua 1,200 of sifiliaid yn Libanus a 43 yn Israel. Yn dilyn methiant byddin Israel (y cryfa ar bapur a’r mwya modern yn yr ardal diolch yn rhannol i gymorth milwrol eang gan y Gorllewin) i drech Hisbala, mwynheodd y mudiad cryn gefnogaeth boblogaidd yn Libanus ac ymysg poblogaethau Arabaidd gwledydd eraill yr ardal. Fel rhan o’r twf yma, ymunodd rhai cannoedd o lanciau ifanc Shiaidd a’r mudiad gan negyddu’r colledion ddioddefwyd yn y gwrthdaro, a chan gynyddu y nifer o ymladdwyr ar lyfrau’s mudiad i dua 10,000.
Mae’r adroddiadau diweddaraf yn honi bod arweinayr Hisbala wedi bod yn cwrdd a sawl sieich (arweinydd crefyddol a chymdeithasol) ymysg cymunedau Swni Libanus i geisio datblygu perthynas agosach gyda’r gymuned ehangach yn Libanus. Er taw un o’r rhesymau am hyn fyddai i gryfau’r mudiad cyn ymosodiad disgwyliedig nesaf Israel, mae’r mater yn un llawer mwy cymleth na hyn. Mae Hisbala hefyd am fanteisio ar ddiffyg fydd nifer o boblogaeth y wlad gyda’r llywodraeth bresenol, llywodraeth syn hynnod o agos at y Ty Gwyn ac arweinwyr gorllewinol eraill. Yn ogystal a hyn, ac fel rhan o’r fargen am gefnogaeth y siechs, mae’r mudiad yn hyfforddi cannoedd of lanciau Swni yn un o’r gwersylloedd ffoaduriaid Palesteinaidd er mwyn rhwystro twf al-Caida yn y wlad. Er gwaethaf rhai honiadau o Washington ac Israel, mae Hisbala yn gwbl wrthyn i syniadaeth y mudiad sy’n glwm ac Osama Bin Laden, ac yn barod i herio unrhyw ymgais gan yr eithafwr Swni i sefydlu troedle yn Libanus.
Am fwy o fanylion, dyma ddolen i erthygl yn y San Franciso Chronicle: http://www.sfgate.com/cgi-bin/article.cgi?f=/c/a/2007/11/01/MNOISNC32.DTL&hw=hugh+macleod&sn=001&sc=1000